Ar Lan y Môr

Rhiannon Mair

AR LAN Y MÔR

Yn deithio yng Nghymru, 2023

PERFFORMIADAU SYDD I DDOD:
THEATR VOLCANO | ABERTAWE | 08 MEHEFIN 19:00 | Talwch faint bynnag rydych chi’n ei benderfynu. Archebwch sedd ar Eventbrite.
NEAUDD RHOSHIRWAUN | ABERDARON (ar bwys PWLLHELI) | 15 MEHEFIN 19:30 | Cysylltu gyda ebost.
NEUADD GLANNAU FFRAW | ABERFFRAW | 22 JUNE 19:00 | Tocynnau ar gael yn Neuadd y Dref, Llangefni, neu drwy ffonio 01248 725700

Mam-gu Rhiannon yw un o’r preswylwyr olaf sy’n byw ar y stryd, ar lan y môr yn Sir Benfro. O’r 19 tŷ sydd yno, mae 15 ohonynt yn dai gwyliau.

Eistedda Mam-gu ger y ffenest yn y parlwr. Mae’r llanw yn troi. Mae’r bobl yn diflannu.

Beth yw dyfodol y stryd? Beth yw dyfodol ardaloedd glan mor gorllewin a gogledd Cymru? Beth yw effaith tai gwyliau ar iaith a diwylliant bro? Beth yw’r penderfyniadau anodd personol sydd ynghlwm a’r sefyllfa?

Mae Rhiannon Mair yn rhoi llais i rai o’r materion hyn mewn perfformiad iaith Gymraeg. Gyda help llawer o gerrig, cyfuna ddulliau adrodd stori aml-haenog drwy iaith a chorff.

Gwahoddir y gynulleidfa i aros am baned a sgwrs anffurfiol wedi’r perfformiad.

Mae Ar Lan y Môr yn cael ei greu a’i berfformio gan Rhiannon Mair.
Cymorth Creadigol gan Elis Pari a Sera Moore Williams.

Cyflwynwch y sioe yn eich cymuned! Mae Ar Lan y Môr o ddiddorden arbennig i gymunedau yr effeithir gan ail gartrefi / tai haf / pobl ifanc yn gadael y gymuned. Mae Noson Allan yn helpu grwpiau cymunedol yng Nghymru i lwyfannu sioeau proffesiynol yn eu hardaloedd lleol drwy ddileu’r perygl ariannol iddynt. I weld sut y gweithia’r cynllun mewn 5 cam, cliciwch yma.

Mae Cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Lleol i gynorthwyo grwpiau o wirfoddolwyr ledled Cymru i ddod a’r celfyddydau i galon eich cymunedau .

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education