Y CYSYLLTWYR DIWYLLIANT

Daliwch nhw o gwmpas y ddinas!

Y Cysylltwyr Diwylliant

Mae’r Cysyllytwyr Diwylliant yn dîm o ymchwilwyr myfyrwyr rhan-amser sy’n archwilio Abertawe, gan siarad â thrigolion, ymwelwyr, a gweithwyr am ddiwylliant, y ddinas, a chartref. Mae’r tîm yn dylunio eu hymchwil eu hunain ac yn creu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Dilynwch ni ar Instagram i ddarganfod beth maen nhw’n ei wneud. Hyd yn hyn maen nhw wedi ymweld ag Oriel Glynn Vivian, Syrcas NoFit State, Marchnad Abertawe a chanolfannau siopa amrywiol, ac wedi bod yn darganfod beth yw barn pobl am y Prinder Tomato Mawr, pa fwyd sy’n eu hatgoffa o gartref, pa gerddoriaeth sy’n dal ysbryd Abertawe. a beth mae’r Pasg yn ei olygu iddyn nhw. Fe fyddan nhw’n gwneud ymddangosiad yn Swansea Pride. Mae Culture Connectors yn seiliedig ar syniad a gafodd ei dreialu gyda chymorth grant Connect & Flourish gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Llun: Arddangosfa In Wonderland gan Jemma Clifford, Nadine Hamilton ac Ewa Mielczarak.  
Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education