Ymdeimlad o’r Môr

Myfyrdodau ar yr Adolygiad Buddsoddi...

Ymdeimlad o’r Môr

 

Mae’r broses o gyfiawnhau dosbarthiad arian cyhoeddus prin, yn gwbl briodol, yn un sy’n cymryd amser ac sy’n llethu. Rydyn ni’n boddi mewn niferoedd, strategaethau a chynlluniau. Rydyn ni’n rhagweld trawsnewid, cyfiawnder ac ymgysylltu sy’n ehangu drwy’r amser. Rydyn ni’n creu rhethreg fyrlymus sy’n gwneud i ideolegwyr y gorffennol ymddangos fel y sildynnod gwleidyddol ag yr oeddent mewn gwirionedd.

Pan gawn seibiant oddi wrth y rhifau a’r areitheg, ceir amser: i helpu’r bobl sy’n dod i’n canolfan gelf fyrfyfyr – menyw sydd wedi dod i mewn i’r adeilad yn chwilio am ddillad cynnes; i gael trafodaeth ynghylch a allwn ddarparu cyfres o weithdai ADHD; i edrych ymlaen at ddiwrnod dathlu Latfiaidd ac i baratoi ar gyfer dawnswyr polyn y dyfodol. Mae angen i unrhyw adeilad ar unrhyw Stryd Fawr yng Nghymru gael diffiniad eang o’r hyn sy’n cyfrif fel diwylliant. Mae anghenion ymarferol pobl yn ymyrryd yn rhai o’n hymdriniaethau mwy huawdl.

Mae ymyriadau’r bobl yn ein hatgoffa nad yw’r farchnad yn gweithio, ac yr ydym yn cymeradwyo ei heffeithlonrwydd am gost anwybyddu ei hanallu systematig i ddarparu atebion gwell a bywydau gwell i gymunedau niferus Cymru. Ac er bod angen buddsoddiad cyhoeddus sylweddol ar yr un pryd ac ymgysylltu â’r cyfleoedd y mae’r farchnad yn eu cynnig (mewn ffordd ddeniadol neu gyda gordd), mae bellach yn amlwg bod yn rhaid i berfformiad gadw elfen chwareus sy’n ei wahaniaethu oddi wrth fasnach. Rhaid i theatr (neu o leiaf y math hwn o theatr) gadw ei beirniadaeth fforensig o’r byd bob dydd, ei geiriadur o freuddwydion a’i anhrefn plentynnaidd a gobeithiol. Dim ond drwy wneud hynny y gallwn ffynnu yng nghalonnau a meddyliau’r ifanc, y rhai sy’n cydymdeimlo a’r dieithriaid y mae eu hanghenion yn parhau heb eu diwallu.

Mae’r rhai sy’n derbyn cyllid cyhoeddus yn aml yn sôn am argyfwng wrth wynebu’r posibilrwydd cynyddol o newid a chyfiawnhau, ond mae’n debyg ein bod yn galw am ddiffiniad mwy elastig o amser yn hytrach na dinistrio’r mecanwaith sy’n caniatáu i ni fodoli. Amser, i weld bod mannau celf byrfyfyr Cymru’n cael effaith enfawr; mae’r newid hwnnw’n digwydd ar lefel y stryd, bob tro y mae’r drws yn agor a rhyw Don Quixote yn swagro neu’n siglo i mewn, rhaid inni eu croesawu fel pe baem wedi bod yn aros amdanynt erioed. Mae iechyd ein sefydliadau cenedlaethol yn dibynnu ar y cyfarfyddiadau hyn ar lefel y stryd – pa mor agos a deniadol yw’r cyfarfyddiadau hyn sy’n darparu gwead popeth a wnawn a’r rhan fwyaf o’r hyn rydyn ni’n gobeithio ei gael.

Heb ddealltwriaeth ethnograffig o’r ffordd yr ydym yn dod i gysylltiad â’r celfyddydau, bydd ein sefydliadau mwy yn arnofio’n ddigyfeiriad ar gefnfor o dlodi a digon, a’u hymdrechion i gysylltu â chymunedau amrywiol yn ymddangos yn fwyfwy ymffrostgar ac amherthnasol. Mae’r byd cyhoeddus yn llawn cychod sydd wedi ceisio mordwyo’r moroedd ond sydd bellach ar goll ac yn methu penderfynu i ba gyfeiriad y maent yn teithio. Nid yw dulliau cyfathrebu lluosog yn gallu disodli’r busnes go iawn o siarad, sgwrsio a chreu theatr. Pan mae’r moroedd yn arw, mae’n hawdd breuddwydio am hafan. Ond gall glanio ac aros fod yr un mor beryglus ag unrhyw daith. Mae angen dewrder i agor drws siop, tafarn, ysgol, canolfan chwaraeon neu theatr. Dewrder a rhyw ymdeimlad o’r môr.

Paul Davies, Mawrth 2023

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education