Amdanom Ni

Mae Volcano yn gwmni theatr wedi’i leoli yn Abertawe, de Cymru. Rydym yn creu gwaith gwreiddiol sydd bob amser yn chwareus, dyfeisgar a rhyfeddol – ar ba bynnag ffurf y mae hynny. Rydym yn teithio ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Hen archfarchnad enfawr yw ein cartref yn Abertawe lle’r ydym yn creu a pherfformio ein gwaith ac yn cynnal a chefnogi perfformiadau, digwyddiadau a gweithgareddau gan artistiaid, sefydliadau a grwpiau cymunedol eraill.

Mae ein hadain ieuenctid yn cynnwys The Mighty New i blant o pedwar oed a Chwmni Ieuenctid Volcano i unigolion yn eu harddegau ac oedolion ifanc.

Scroll to Top
home
about
what's on
productions
vyc
oportunites
venue
education